Y blaenoriaethau
Mae ein Cynllun Busnes (Business Plan) yn cynnwys naw o flaenoriaethau’r glymblaid a’r rheiny wedi’u seilio ar bedair thema:
Sicrhau economi sy’n fwy deinamig ac yn fwy cytbwys rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus a rhwng y rhanbarthau
1. Ailosod cydbwysedd yr economi ar draws y sectorau
Sicrhau bod busnesau newydd a chyfleoedd newydd yn cael eu rhannu’n fwy gwastad, gan ategu twf ac economi carbon-isel
2. Ailosod cydbwysedd yr economi ar draws y rhanbarthau
Galluogi’r awdurdodau lleol a busnesau i bennu strategaethau datblygu eu hardal leol, mewn ffyrdd sy’n ategu twf economaidd ac sy’n helpu i ailosod cydbwysedd yr economi
3. Diogelu dyfodol y Post Brenhinol a Swyddfa’r Post
Sicrhau dyfodol y gwasanaeth post cyffredinol a chreu dyfodol cynaliadwy i’r Post Brenhinol a Swyddfa’r Post
Diogelu twf hirdymor y Deyrnas Unedig drwy hybu sgiliau a thrwy roi gwybodaeth ar waith yn fasnachol
4. Adeiladu cronfa o sgiliau sy’n gystadleuol yn rhyngwladol
Creu system sgiliau ddeinamig ac effeithlon sy’n cynnwys dysgwyr a chyflogwyr gwybodus a grymus a’r rheiny’n cael eu gwasanaethu gan golegau ymatebol a darparwyr eraill ymatebol yn eu hardaloedd
5. Helpu prifysgolion, gwyddoniaeth ac ymchwil i adeiladu economi cryf, arloesol
Sefydlu fframwaith ar gyfer addysg uwch, gwyddoniaeth ac ymchwil sy’n hybu cystadleurwydd o safon ryngwladol mewn addysgu ac ymchwilio. Sicrhau cynnydd, mynediad teg a gwell ansawdd i fyfyrwyr. Cryfhau’r cysylltiadau rhwng prifysgolion a diwydiannau a helpu i ddatblygu arloesedd a thechnoleg
Ysgogi menter a masnach i hybu’r cydbwysedd newydd a’r twf yn y sector preifat yr hoffem eu gweld
6. Hybu menter a sicrhau mai dyma ddegawd yr entrepreneur
Helpu busnesau bach a chanolig i ddechrau ac i ffynnu drwy well cymorth i fusnes, gwell cyfle i gael cyllid a chystadleurwydd cryfach, gyda llai o rwystrau i atal busnesau rhag mynd i’r farchnad, gan greu diwylliant mwy entrepreneuraidd
7. Ysgogi allforion a buddsoddiadau o’r tu allan
Hybu marchnadoedd byd-eang agored a theg, gwella ffocws UK Trade & Investment ar greu buddsoddiadau o’r tu allan sydd o werth uchel, a chryfhau gallu allforwyr y Deyrnas Unedig
Atal llywodraeth rhag rhwystro twf, a sicrhau ymddygiad corfforaethol cyfrifol
8. Creu amgylchedd cadarnhaol i fusnes
Creu amgylchedd busnes sy’n cynnal buddsoddiadau hirdymor a thwf cynaliadwy, gan leihau rheoliadau, creu marchnadoedd llafur mwy hyblyg, diwygio llywodraethiant corfforaethol a sicrhau bod y deddfau ar eiddo deallusol yn hybu arloesedd masnachol
9. Amddiffyn a grymuso defnyddwyr
Cryfhau amddiffyniad defnyddwyr, yn enwedig i’r rhai mwyaf bregus, a hybu ymddygiad mwy cyfrifol o du corfforaethau a defnyddwyr drwy fwy o dryloywder a thrwy harneisio syniadau o fyd economeg ymddygiadol a seicoleg gymdeithasol